Tobit 3:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Bu hyn yn ofid calon iddi y diwrnod hwnnw. Yn ei dagrau aeth i fyny i oruwchystafell ei thad gyda'r bwriad o'i chrogi ei hun. Ond dechreuodd ailfeddwl a dweud, “Ni chânt fyth fwrw sen ar fy nhad a dweud wrtho, ‘Un ferch, a honno'n annwyl, oedd i ti, ond fe'i crogodd ei hun o achos ei helbulon.’ Byddai'r fath weithred yn ddigon i ddwyn fy nhad oedrannus i'r bedd o dristwch. Mwy buddiol i mi fydd peidio â'm crogi fy hun, ond gweddïo ar i'r Arglwydd ganiatáu imi farw, rhag imi ddioddef sen byth eto yn ystod fy mywyd.”

11. Aeth ar unwaith at y ffenestr, â'i dwylo ar led, a gweddïo fel hyn: “Bendigedig wyt ti, Dduw trugarog, a bendigedig fydd dy enw yn oes oesoedd; bydded i'th holl greadigaeth dy fendithio am byth.

12. Dyma fi wedi codi fy ngolwg a'm llygaid tuag atat;

13. gorchymyn fy ngollwng o'r ddaear, imi beidio â dioddef y fath sen byth eto.

14. Gwyddost, Arglwydd, fy mod yn lân o unrhyw aflendid gyda gŵr;

15. nid wyf wedi halogi fy enw i nac enw fy nhad yn nhir fy nghaethiwed. Myfi yw unig ferch fy nhad; nid oes ganddo blentyn arall i fod yn etifedd iddo, na brawd wrth law, na pherthynas i mi fy nghadw fy hun i fod yn wraig iddo. Eisoes yr wyf wedi colli saith gŵr; pa bwrpas, felly, sydd i mi ddal i fyw? Ond, os nad yw'n rhyngu bodd i ti ganiatáu i mi farw, Arglwydd, tro dy sylw trugarog at y sen a fwriwyd arnaf.”

Tobit 3