1. Daeth trallod mawr arnaf, gan beri imi ochneidio ac wylo, ac yn fy nghyfyngder dechreuais weddïo fel hyn:
2. “Cyfiawn wyt ti, Arglwydd, a chyfiawn yw dy holl weithredoedd; trugarog wyt, a chywir yn dy holl ffyrdd; ti sy'n barnu'r byd.
3. Cofia fi yn awr, Arglwydd, ac edrych arnaf. Paid â'm cosbi am y pechodau ac am y camweddau diarwybod yr wyf fi a'm hynafiaid yn euog ohonynt.
4. Yr wyf wedi pechu ger dy fron ac wedi anwybyddu dy orchmynion. Traddodaist ni, felly, i anrhaith a chaethiwed a marwolaeth, ac i fod yn ddihareb ac yn destun siarad a chyff gwawd i'r holl genhedloedd y gwasgeraist ni i'w plith.
5. Yn wir, cywir yw dy aml farnedigaethau wrth fynnu rhoi cosb arnaf am fy mhechodau, oherwydd nid ydym wedi cadw dy orchmynion na rhodio'n gywir yn dy olwg di.