Tobit 2:4-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Neidiais ar fy nhraed a gadael y cinio heb ei flasu; cymerais y corff oddi ar y briffordd a'i osod yn un o'm hystafelloedd hyd fachlud haul, er mwyn imi gael ei gladdu.

5. Yna dychwelais ac ymolchi, a bwyta fy mwyd mewn galar,

6. gan gofio geiriau'r proffwyd, y geiriau a lefarodd Amos yn erbyn Bethel, pan ddywedodd:“Troir eich gwyliau yn alar,a'ch holl ganeuon yn wylofain.”Wylais innau hefyd.

7. Wedi machlud haul, euthum allan a thorri bedd a chladdu'r corff.

8. Yr oedd fy nghymdogion yn chwerthin am fy mhen a dweud, “Onid oes ofn arno bellach? Oherwydd pan geisiwyd ef i'w roi i farwolaeth am y weithred hon o'r blaen, fe redodd i ffwrdd, ond dyma fe unwaith eto'n claddu'r meirw.”

9. Y noson honno, wedi imi ymolchi, euthum allan i'm cyntedd a chysgu wrth wal y cyntedd, heb orchudd ar fy wyneb o achos y gwres.

10. Ni wyddwn fod adar y to ar y wal uwch fy mhen; syrthiodd diferion o'u baw yn dwym i mewn i'm llygaid, gan ymdaenu'n smotiau gwyn drostynt. Euthum at y meddygon am driniaeth, ond po fwyaf o ennaint a roddent ar fy llygaid, llwyraf oll y collwn fy ngolwg dan y smotiau gwyn, nes i mi fynd yn gwbl ddall. Bûm heb ddefnydd fy llygaid am bedair blynedd. Yr oedd fy nhylwyth oll yn gofidio amdanaf, ac am y ddwy flynedd cyn iddo ymfudo i Elymais bu Achicar yn gofalu amdanaf.

11. Yn ystod y cyfnod hwn bu Anna fy ngwraig yn ennill cyflog wrth waith merched.

12. Byddai'n mynd â'i gwaith at ei chyflogwyr ac yn derbyn tâl amdano. Ar y seithfed dydd o fis Dystrus, torrodd y brethyn o'r ffrâm a mynd ag ef at ei chyflogwyr. Talasant ei chyflog yn llawn a rhoi iddi yn ogystal fyn o'r praidd i fynd ag ef adref.

Tobit 2