Aeth Tobias allan i chwilio am rywun tlawd o blith ein tylwyth. Daeth yn ôl ac meddai, “'Nhad.” “Dyma fi, fy machgen,” meddwn wrtho. “Gwrando, 'nhad,” atebodd yntau, “y mae un o'n pobl wedi ei ladd, a'i gorff yn gorwedd yn y farchnadfa; cafodd ei daflu yno, wedi ei dagu, ychydig funudau yn ôl.”