6. Os dychwelwch ato â'ch holl galon ac â'ch holl enaid,a gweithredu'n gywir ger ei fron,yna fe ddychwel atoch chwi,ac ni chuddia'i wyneb oddi wrthych ddim mwy.Ystyriwch yn awr y pethau a wnaeth yn eich plith,a chlodforwch ef ar uchaf eich llais.Bendithiwch yr Arglwydd cyfiawn a dyrchafwch y Brenin tragwyddol.
10. ‘Fe ailadeiledir dy babell iti mewn llawenyddi fod yn achos gorfoledd ynot i'r holl rai a alltudiwyd,ac yn arwydd o gariad ynot i'r holl drueiniaid ym mhob cenhedlaeth am byth.
11. Llewyrcha disgleirdeb dy oleuni i holl derfynau'r ddaear;daw cenhedloedd lawer atat o bell,a thrigolion holl eithafoedd y ddaear at dy enw sanctaidd,a'u rhoddion yn eu dwylo i'w cyflwyno i Frenin y Nef.Bydd cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth yn gorfoleddu ynot,ac fe bery enw'r ddinas etholedig am byth.
12. Bydd melltith ar bawb a ddywed ddrygair wrthyt,a melltith ar bawb a gais dy ddifrodi a thynnu dy furiau i lawr,ar bawb a gais ddymchwel dy dyrau a rhoi dy drigfannau ar dân;ond bydd bendith am byth ar bawb sy'n dy barchu di.
13. Tyrd, felly, ac ymlawenha ym mhlant y cfiawn,am y byddant oll wedi eu casglu ynghydac yn bendithio'r Arglwydd tragwyddol.Gwyn eu byd y rhai sy'n dy garu;gwyn eu byd y rhai sy'n llawenhau yn dy lwyddiant.