Tobit 13:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma gân Tobit:“Bendigedig fo'r Duw bytholfyw a'i deyrnas ef!

2. Oherwydd ef sy'n cosbi, ac yn trugarhau.Ef sy'n bwrw pobl i lawr hyd ddyfnder eithaf y bedd,ac ef hefyd sy'n eu codi i fyny o'r dinistr mawr.Nid oes dim a all ddianc rhag ei law.

3. Clodforwch ef gerbron y Cenhedloedd, blant Israel,oherwydd ef a'ch gwasgarodd yn eu plith hwy;

4. ac yno dangosodd ei fawredd i chwi.Dyrchafwch ef, felly, gerbron pob un byw,oherwydd ef yw ein Harglwydd; ef yw ein Duw;

5. “Fe'ch cosba chwi am eich anghyfiawnderau,ac eto fe drugarha wrthych chwi oll,a'ch cynnull o blith yr holl genhedloedd,lle bynnag y'ch gwasgarwyd chwi yn eu plith.

Tobit 13