Tobit 12:11-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. ‘Mynegaf y gwir cyfan i chwi, heb guddio dim oddi wrthych. Yr wyf eisoes wedi ei fynegi i chwi pan ddywedais: “Da yw cadw cyfrinach brenin, ond rhaid datguddio gweithredoedd Duw a'u clodfori.”

12. Yn awr, pan weddïaist ti, Tobit, a Sara hithau, myfi a gyflwynodd eich gweddïau gerbron gogoniant yr Arglwydd; a'r un modd wrth iti gladdu'r meirw:

13. y noson y codaist o'r bwrdd swper yn ddibetrus i fynd i gladdu'r corff marw, yr adeg honno fe'm hanfonwyd atat i'th roi di ar brawf.

14. Dyna'r adeg hefyd yr anfonodd Duw fi i ddwyn iachâd i ti ac i Sara, dy ferch-yng-nghyfraith.

15. Myfi yw Raffael, un o'r saith angel sy'n sefyll wrth ymyl yr Arglwydd ac yn cael mynd i mewn gerbron ei ogoniant.’

16. Syfrdanwyd y ddau, a syrthiasant ar eu hwynebau mewn dychryn,

17. ond dywedodd ef wrthynt, ‘Peidiwch ag ofni. Tangnefedd i chwi! Bendithiwch Dduw am byth.

18. I mi fod yn eich plith, nid i mi y mae'r diolch am hynny, ond i ewyllys Duw; ef, gan hynny, sydd i gael eich clod holl ddyddiau eich bywyd; ef sydd i gael eich mawl.

19. Sylwch ar hyn amdanaf, na chymerais ddim i'w fwyta; ni welsoch chwi namyn rhith.

20. Yn awr, felly, bendithiwch yr Arglwydd ar y ddaear, a chlodforwch Dduw. Ond yr wyf fi'n esgyn at yr hwn a'm hanfonodd. Rhowch mewn ysgrifen yr holl bethau hyn a ddigwyddodd i chwi.’

21. Yna fe esgynnodd. Codasant ar eu traed, ond ni allent ei weld ef mwyach.

22. A dechreusant fendithio Duw a chanu mawl iddo a'i glodfori am y gweithredoedd mawr hyn o'i eiddo, pan ymddangosodd angel Duw iddynt.”

Tobit 12