Tobit 12:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wedi i'r dathlu ddod i ben, galwodd Tobit Tobias ei fab ato a dweud, “Fy machgen, cofia dalu ei gyflog i'r gŵr a fu'n gydymaith iti, a rho rywbeth ar ben ei gyflog iddo.”

2. “Fy nhad,” gofynnodd yntau, “pa faint o gyflog yr wyf i'w roi iddo? Ni welwn eu heisiau pe rhown iddo hanner y meddiannau y bu'n gymorth imi ddod â hwy adref.

3. Fe'm cadwodd yn ddiogel, rhoes iachâd i'm gwraig; bu'n gymorth imi ddod â'r arian, a rhoes iachâd i tithau. Pa faint o gyflog ychwanegol a roddaf iddo?”

4. Atebodd Tobit fel hyn: “Y mae'n deg iddo gael hanner y cwbl a ddygodd yn ôl, fy machgen.”

5. Galwodd ef ato, felly, a dweud, “Cymer hanner y cwbl a ddygaist yn ôl. Dyna dy gyflog, a dos mewn tangnefedd.”

Tobit 12