1. Wedi i'r dathlu ddod i ben, galwodd Tobit Tobias ei fab ato a dweud, “Fy machgen, cofia dalu ei gyflog i'r gŵr a fu'n gydymaith iti, a rho rywbeth ar ben ei gyflog iddo.”
2. “Fy nhad,” gofynnodd yntau, “pa faint o gyflog yr wyf i'w roi iddo? Ni welwn eu heisiau pe rhown iddo hanner y meddiannau y bu'n gymorth imi ddod â hwy adref.
3. Fe'm cadwodd yn ddiogel, rhoes iachâd i'm gwraig; bu'n gymorth imi ddod â'r arian, a rhoes iachâd i tithau. Pa faint o gyflog ychwanegol a roddaf iddo?”
4. Atebodd Tobit fel hyn: “Y mae'n deg iddo gael hanner y cwbl a ddygodd yn ôl, fy machgen.”
5. Galwodd ef ato, felly, a dweud, “Cymer hanner y cwbl a ddygaist yn ôl. Dyna dy gyflog, a dos mewn tangnefedd.”
6. Yna galwodd Raffael y ddau o'r neilltu a dweud wrthynt, “Bendithiwch Dduw, ac am y daioni a gawsoch ganddo clodforwch ef gerbron pob un byw, er mwyn iddynt ei fendithio a moliannu ei enw. Cyhoeddwch weithredoedd Duw i bawb gyda phob dyledus glod, a pheidiwch ag ymatal rhag ei glodfori.
7. Da yw cadw cyfrinach brenin, ond rhaid datguddio gweithredoedd Duw a'u canmol, gyda phob dyledus glod. Gwnewch ddaioni, ac ni ddaw drygioni ar eich cyfyl.
8. Gwell gweddi ddiffuant ac elusen gyfiawn na chyfoeth anghyfiawn; gwell rhoi elusen na phentyrru cyfoeth,
9. oherwydd y mae elusen yn achub rhag marwolaeth ac yn glanhau pob pechod.
10. Bydd y rhai sy'n rhoi elusen yn mwynhau bywyd yn ei gyflawnder, ond gelynion iddynt hwy eu hunain yw'r rheini sy'n euog o bechod ac anghyfiawnder.
11. ‘Mynegaf y gwir cyfan i chwi, heb guddio dim oddi wrthych. Yr wyf eisoes wedi ei fynegi i chwi pan ddywedais: “Da yw cadw cyfrinach brenin, ond rhaid datguddio gweithredoedd Duw a'u clodfori.”