Tobit 11:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. A dyma Anna'n rhedeg at ei mab ac yn ei gofleidio. “Cefais dy weld, fy machgen,” meddai wrtho. “Rwy'n barod i farw yn awr.” A thorrodd i wylo.

10. Ar hynny cododd Tobit ar ei draed, a baglodd allan trwy ddrws y cyntedd.

11. Cerddodd Tobias ato â bustl y pysgodyn yn ei law; chwythodd ar ei lygaid, a chan afael yn dynn ynddo dywedodd, “Paid ag ofni, fy nhad.”

12. Rhoes yr eli ar ei lygaid a'i daenu drostynt.

13. Yna, â'i ddwy law fe dynnodd y bilen wen oddi ar gil llygaid ei dad. Cofleidiodd Tobit ei fab; torrodd i wylo a dweud,

14. “Rwy'n gallu dy weld, fy mhlentyn, goleuni fy llygaid.” Ychwanegodd, “Bendigedig fyddo Duw! Bendigedig fyddo'i enw mawr! Bendigedig fyddo'i holl angylion sanctaidd! Boed ei enw mawr arnom, a bendith ar ei holl angylion sanctaidd yn oes oesoedd!

15. Oherwydd cosbodd fi â'i ffrewyll, ond yn awr dyma fi'n gallu gweld Tobias fy mab.”Aeth Tobias i mewn yn llawen, gan fendithio Duw ar uchaf ei lais. Adroddodd Tobias wrth ei dad am lwyddiant ei daith, ei fod wedi dod â'r arian, ac wedi cael Sara ferch Ragwel yn wraig iddo a'i bod hi eisoes ar gyrraedd wrth borth Ninefe.

Tobit 11