Tobit 1:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Yn wir, pan oeddwn yn ŵr ifanc, a minnau'n dal i fyw ar dir Israel, fy mamwlad, cefnodd holl lwyth Nafftali, fy nghyndad, ar dŷ Dafydd ac ar Jerwsalem, y ddinas a ddewiswyd o holl lwythau Israel iddynt offrymu aberthau ynddi. Yno y codwyd y deml, preswylfa Duw, a'i chysegru i'r holl genedlaethau am byth.

5. Yr oedd fy nhylwyth oll, sef teulu Nafftali fy nghyndad, yn offrymu aberthau ar holl fryniau Galilea i'r llo a osododd Jeroboam brenin Israel yn Dan.

6. Ar fy mhen fy hun yn unig, felly, yr euthum droeon i Jerwsalem ar gyfer y gwyliau, fel y gorchmynnwyd i holl Israel mewn ordinhad oesol. Byddwn yn prysuro i Jerwsalem gan gymryd gyda mi y blaenffrwyth a'r cyntafanedig, degwm y gwartheg a chneifiad cyntaf y defaid, a'u rhoi i feibion Aaron, yr offeiriaid, o flaen yr allor;

7. ac yn yr un modd rhoddwn i feibion Lefi, y cynorthwywyr yn Jerwsalem, ddegwm yr ŷd, y gwin a'r olew, y pomgranadau a'r ffigys a'r ffrwythau eraill. Byddwn yn cyfrannu ail ddegwm mewn arian am y chwe blynedd,

8. ac yn mynd a'i wario yn Jerwsalem bob blwyddyn, gan ddosbarthu'r arian i'r amddifaid ac i'r gweddwon yn ogystal ag i'r proselytiaid oedd wedi eu cysylltu eu hunain â phlant Israel. Byddwn yn mynd i fyny a'i ddosbarthu iddynt bob trydedd flwyddyn. Byddem yn ei fwyta yn unol â'r ordinhad a ordeiniwyd am y pethau hyn yng Nghyfraith Moses, ac yn unol â'r gorchmynion a orchmynnodd Debora, mam Ananiel ein taid; oherwydd fe'm gadawyd yn amddifad ar ôl marwolaeth fy nhad.

Tobit 1