20. Yna cipiwyd fy holl eiddo. Ni adawyd dim imi nas cymerwyd i drysorfa'r brenin, ar wahân i Anna fy ngwraig a Tobias fy mab.
21. Ond cyn pen deugain diwrnod llofruddiwyd y brenin gan ddau o'i feibion. Ffoesant hwy am loches i fynydd-dir Ararat, ac felly daeth ei fab Esarhadon yn frenin ar ei ôl. Penododd yntau Achicar fab Anael, mab fy mrawd, yn oruchwyliwr ar holl drysorlys ei deyrnas; yn wir, cafodd awdurdod dros y weinyddiaeth gyfan.
22. Yna, wedi i Achicar eiriol ar fy rhan, dychwelais i Ninefe. Oherwydd yn ystod teyrnasiad Senacherib ar yr Asyriaid, Achicar oedd â gofal cwpan a sêl y brenin; ef hefyd oedd y prif weinidog a'r trysorydd. Ailbenodwyd ef i'r swyddi hyn gan Esarhadon. Yr oedd yn nai i mi, o'r un dras yn union â mi.