10. Pan gipiwyd fi'n gaeth i Asyria, a minnau'n un o'r gaethglud, deuthum i Ninefe. Yr oedd fy nhylwyth oll a'm cyd-genedl yn cymryd o fwyd y Cenhedloedd,
11. ond ymgedwais i rhag bwyta mymryn o fwyd y Cenhedloedd.
12. A chan i mi ddal yn ffyddlon i'm Duw â'm holl fryd,
13. rhoddodd y Goruchaf imi wedd a enillodd ffafr gerbron Salmaneser; myfi fyddai'n prynu pob peth at ei ddefnydd.
14. Byddwn yn teithio i Media i brynu iddo yno, hyd ei farw. Gadewais godau o arian, gwerth deg talent, yng ngwlad Media yng ngofal Gabael, brawd Gabri.
15. Pan fu farw Salmaneser, daeth ei fab Senacherib yn frenin yn ei le, ac fe ataliwyd yr hawl i deithio i Media, fel na ellais deithio yno mwyach.
16. Yng nghyfnod Salmaneser bûm yn hael iawn fy nghymwynas i'm tylwyth o'm cyd-genedl:
17. byddwn yn rhannu fy mwyd â'r newynog, ac yn rhoi dillad i'r noeth; a phan ddigwyddwn daro ar un o'm cyd-genedl yn farw, a'i gorff wedi ei daflu dros furiau Ninefe, byddwn yn ei gladdu.
18. Cleddais hefyd bwy bynnag a laddwyd gan Senacherib wedi iddo ffoi yn ôl o Jwdea ar adeg y farnedigaeth a ddug Brenin y Nef arno ar gyfrif ei holl gableddau. Oherwydd yn ei ddicter fe laddodd lawer o blant Israel, ond byddwn yn dwyn eu cyrff ac yn eu claddu; ac er i Senacherib chwilio amdanynt, ni ddaeth o hyd iddynt.
19. Ond aeth rhywun o blith gwŷr Ninefe a hysbysu'r brenin mai myfi oedd yn eu claddu. Ymguddiais, a phan sylweddolais fod y brenin yn gwybod amdanaf a bod chwilio amdanaf i'm lladd, cododd arswyd arnaf, a rhedais i ffwrdd.