Tobit 1:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Pan gipiwyd fi'n gaeth i Asyria, a minnau'n un o'r gaethglud, deuthum i Ninefe. Yr oedd fy nhylwyth oll a'm cyd-genedl yn cymryd o fwyd y Cenhedloedd,

11. ond ymgedwais i rhag bwyta mymryn o fwyd y Cenhedloedd.

12. A chan i mi ddal yn ffyddlon i'm Duw â'm holl fryd,

13. rhoddodd y Goruchaf imi wedd a enillodd ffafr gerbron Salmaneser; myfi fyddai'n prynu pob peth at ei ddefnydd.

14. Byddwn yn teithio i Media i brynu iddo yno, hyd ei farw. Gadewais godau o arian, gwerth deg talent, yng ngwlad Media yng ngofal Gabael, brawd Gabri.

15. Pan fu farw Salmaneser, daeth ei fab Senacherib yn frenin yn ei le, ac fe ataliwyd yr hawl i deithio i Media, fel na ellais deithio yno mwyach.

Tobit 1