Tobit 1:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma hanes Tobit fab Tobiel, fab Ananiel, fab Adwel, fab Gabael, fab Raffael, fab Ragwel, o linach Asiel ac o lwyth Nafftali.

2. Yn ystod teyrnasiad Salmaneser yn Asyria, fe'i cipiwyd yn gaeth o Thisbe, lle yng Ngalilea Uchaf i'r de o Cedes Nafftali ac i'r gogledd o Hasor, neu o gyfeiriad ffordd y gorllewin, i'r gogledd o Peor.

3. Yr oeddwn i, Tobit, wedi dilyn llwybrau'r gwirionedd a gweithredoedd da ar hyd fy mywyd, gan fod yn hael iawn fy nghymwynas i'm tylwyth ac i'm cyd-genedl a aeth gyda mi mewn caethiwed i Ninefe yng ngwlad yr Asyriaid.

Tobit 1