Swsanna 1:19-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Wedi i'r morynion fynd allan, cododd y ddau henuriad a rhedeg ati.

20. “Edrych,” meddent, “y mae drysau'r ardd wedi eu cau ac ni all neb ein gweld, ac yr ydym yn llawn blys amdanat; felly cytuna i orwedd gyda ni.

21. Os na wnei, fe rown dystiolaeth yn dy erbyn fod dyn ifanc gyda thi, ac mai dyna pam yr anfonaist y morynion oddi wrthyt.”

22. Dywedodd Swsanna ag ochenaid, “Y mae'n gyfyng arnaf o bob tu. Oherwydd os gwnaf hyn, bydd yn angau i mi, ac os na wnaf, ni allaf ddianc o'ch dwylo.

23. Gwell gennyf wrthod, a syrthio i'ch dwylo chwi, na phechu yn erbyn yr Arglwydd.”

24. Yna gwaeddodd Swsanna â llef uchel, a'r un pryd gwaeddodd y ddau henuriad yn uwch na hi.

25. Rhedodd un ohonynt ac agorodd ddrysau'r ardd.

Swsanna 1