Seffaneia 3:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. “Felly, disgwyliwch amdanaf,” medd yr ARGLWYDD,“am y dydd y codaf yn dyst i'ch erbyn;oherwydd fy mwriad yw casglu cenhedloedda chynnull teyrnasoedd,i dywallt fy nicter arnynt,holl gynddaredd fy llid;oherwydd â thân fy llid yr ysir yr holl dir.

9. “Yna, rhof i'r bobloedd wefus bur,iddynt oll alw ar enw'r ARGLWYDDa'i wasanaethu'n unfryd.

10. O'r tu hwnt i afonydd Ethiopiay dygir offrwm i mi gan y rhai ar wasgarsy'n ymbil arnaf.

11. “Ar y dydd hwnnwni'th waradwyddir am dy holl waithyn gwrthryfela i'm herbyn;oherwydd symudaf o'th blithy rhai sy'n ymhyfrydu mewn balchder,ac ni fyddi byth mwy'n ymddyrchafuyn fy mynydd sanctaidd.

12. Ond gadawaf yn dy fysgbobl ostyngedig ac isel,a bydd gweddill Israel yn ymddiried yn enw'r ARGLWYDD;

Seffaneia 3