Seffaneia 3:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwae'r ddinas orthrymus,yr un wrthryfelgar a budr!

2. Ni wrandawodd ar lais neb,ac ni dderbyniodd gyngor;nid ymddiriedodd yn yr ARGLWYDD,ac ni nesaodd at ei Duw.

3. Llewod yn rhuo yn ei chanoloedd ei swyddogion;ei barnwyr yn fleiddiaid yr hwyr,heb adael dim tan y bore;

4. ei phroffwydi'n rhyfygusac yn rhai twyllodrus;ei hoffeiriaid yn halogi'r cysegredigac yn treisio'r gyfraith.

5. Ond y mae'r ARGLWYDD yn ei chanol yn gyfiawn;nid yw'n gwneud cam;fore ar ôl bore y mae'n traddodi barnheb ballu ar doriad y dydd;ond ni ŵyr yr anghyfiawn gywilydd.

Seffaneia 3