Seffaneia 2:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Ceisiwch yr ARGLWYDD, holl rai gostyngedig y ddaear sy'n cadw ei ddeddfau;ceisiwch gyfiawnder, ceisiwch ostyngeiddrwydd;efallai y cewch guddfan yn nydd llid yr ARGLWYDD.

4. Bydd Gasa yn anghyfanneddac Ascalon yn ddiffaith;gyrrir allan drigolion Asdod ganol dydd,a diwreiddir Ecron.

5. Gwae drigolion glan y môr, cenedl y Cerethiaid!Y mae gair yr ARGLWYDD yn eich erbyn,O Ganaan, gwlad y Philistiaid:“Difethaf chwi heb adael trigiannydd ar ôl.”

Seffaneia 2