Seffaneia 2:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Chwithau hefyd, Ethiopiaid,fe'ch lleddir â'm cleddyf.

13. Ac fe estyn ei law yn erbyn y gogledd,a dinistrio Asyria;fe wna Ninefe'n anialwch,yn sych fel diffeithwch.

14. Bydd diadelloedd yn gorwedd yn ei chanol,holl anifeiliaid y maes;bydd y pelican ac aderyn y bwnyn nythu yn ei thrawstiau;bydd y dylluan yn llefain yn ei ffenestr,a'r gigfran wrth y rhiniog,am fod y cedrwydd yn noeth.

15. Dyma'r ddinas fostfawroedd yn byw mor ddiofal,ac yn dweud wrthi ei hun,“Myfi, nid oes neb ond myfi.”Y fath ddiffeithwch ydyw,lloches i anifeiliaid gwylltion!Bydd pob un a â heibio iddiyn chwibanu ac yn codi dwrn arni.

Seffaneia 2