Seffaneia 2:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ymgasglwch a dewch ynghyd, genedl ddigywilydd,

2. cyn i chwi gael eich gyrru ymaith, a diflannu fel us,cyn i gynddaredd llid yr ARGLWYDD ddod arnoch,cyn i ddydd dicter yr ARGLWYDD ddod arnoch.

3. Ceisiwch yr ARGLWYDD, holl rai gostyngedig y ddaear sy'n cadw ei ddeddfau;ceisiwch gyfiawnder, ceisiwch ostyngeiddrwydd;efallai y cewch guddfan yn nydd llid yr ARGLWYDD.

4. Bydd Gasa yn anghyfanneddac Ascalon yn ddiffaith;gyrrir allan drigolion Asdod ganol dydd,a diwreiddir Ecron.

Seffaneia 2