Seffaneia 1:6-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. a'r rhai sydd wedi cefnu ar yr ARGLWYDD,ac nad ydynt yn ceisio'r ARGLWYDD nac yn ymgynghori ag ef.”

7. Distawrwydd o flaen yr Arglwydd DDUW!Oherwydd y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos;y mae'r ARGLWYDD wedi paratoi aberthac wedi cysegru ei wahoddedigion.

8. “Ac ar ddydd aberth yr ARGLWYDDmi gosbaf y swyddogion a'r tŷ brenhinol,a phawb sy'n gwisgo dillad estron.

9. Ar y dydd hwnnwmi gosbaf bawb sy'n camu dros y rhiniogac yn llenwi tŷ eu harglwydd â thrais a thwyll.

10. “Ar y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD,“clywir gwaedd o Borth y Pysgod,a chri o Ail Barth y ddinas,a malurio trystfawr o'r bryniau.

11. Gwaeddwch, drigolion y Farchnad.Oherwydd darfu am yr holl fasnachwyr,a thorrwyd ymaith yr holl bwyswyr arian.

12. “Yn yr amser hwnnwchwiliaf Jerwsalem â llusernau,a chosbaf y rhai sy'n ymbesgi uwch eu gwaddodac yn dweud wrthynt eu hunain,‘Ni wna'r ARGLWYDD na da na drwg.’

13. Anrheithir eu cyfoetha difethir eu tai;codant dai, ond ni chânt fyw ynddynt;plannant winllannoedd, ond ni chânt yfed eu gwin.”

14. Y mae dydd mawr yr ARGLWYDD yn agos,yn agos ac yn dod yn gyflym;chwerw yw trwst dydd yr ARGLWYDD,ac yna y gwaedda'r rhyfelwr yn uchel.

15. Dydd dicter yw'r dydd hwnnw,dydd blinder a gofid,dydd dinistr a difrod,dydd tywyllwch a düwch,dydd cymylau a chaddug,

16. dydd utgorn a bloedd rhyfelyn erbyn y dinasoedd caerogac yn erbyn y tyrau uchel.

17. “Mi ddof â thrybini ar bobl,a cherddant fel deillion;am iddynt bechu yn erbyn yr ARGLWYDDtywelltir eu gwaed fel llwcha'u perfedd fel tom,

18. ac ni all eu harian na'u haur eu gwaredu.”Ar ddydd dicter yr ARGLWYDDysir yr holl dir â thân ei lid,oherwydd gwna ddiwedd, ie, yn fuan,ar holl drigolion y ddaear.

Seffaneia 1