Seffaneia 1:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. a'r rhai sydd wedi cefnu ar yr ARGLWYDD,ac nad ydynt yn ceisio'r ARGLWYDD nac yn ymgynghori ag ef.”

7. Distawrwydd o flaen yr Arglwydd DDUW!Oherwydd y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos;y mae'r ARGLWYDD wedi paratoi aberthac wedi cysegru ei wahoddedigion.

8. “Ac ar ddydd aberth yr ARGLWYDDmi gosbaf y swyddogion a'r tŷ brenhinol,a phawb sy'n gwisgo dillad estron.

9. Ar y dydd hwnnwmi gosbaf bawb sy'n camu dros y rhiniogac yn llenwi tŷ eu harglwydd â thrais a thwyll.

10. “Ar y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD,“clywir gwaedd o Borth y Pysgod,a chri o Ail Barth y ddinas,a malurio trystfawr o'r bryniau.

Seffaneia 1