Seffaneia 1:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. “Estynnaf fy llaw yn erbyn Jwdaac yn erbyn holl drigolion Jerwsalem;a thorraf ymaith o'r lle hwn weddill Baal,ac enw'r offeiriaid gau,

5. a'r rhai sy'n ymgrymu ar bennau'r tai i lu'r nef,y rhai sy'n ymgrymu ac yn tyngu i'r ARGLWYDDond hefyd yn tyngu i Milcom,

6. a'r rhai sydd wedi cefnu ar yr ARGLWYDD,ac nad ydynt yn ceisio'r ARGLWYDD nac yn ymgynghori ag ef.”

7. Distawrwydd o flaen yr Arglwydd DDUW!Oherwydd y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos;y mae'r ARGLWYDD wedi paratoi aberthac wedi cysegru ei wahoddedigion.

8. “Ac ar ddydd aberth yr ARGLWYDDmi gosbaf y swyddogion a'r tŷ brenhinol,a phawb sy'n gwisgo dillad estron.

9. Ar y dydd hwnnwmi gosbaf bawb sy'n camu dros y rhiniogac yn llenwi tŷ eu harglwydd â thrais a thwyll.

Seffaneia 1