Sechareia 9:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. “Amdanat ti, oherwydd gwaed y cyfamod rhyngom,gollyngaf dy garcharorion yn rhydd o'r pydew di-ddŵr.

12. Dychwelwch i'ch amddiffynfa, chwi garcharorion hyderus;heddiw yr wyf yn cyhoeddi i chwi adferiad dauddyblyg.

13. Yr wyf wedi plygu fy mwa, Jwda,ac wedi gosod fy saeth ynddo, Effraim;codaf dy feibion, Seion,yn erbyn meibion Groeg,a gwnaf di yn gleddyf rhyfelwr.”

14. Bydd yr ARGLWYDD yn ymddangos uwch eu pennau,a'i saeth yn fflachio fel mellten;Bydd yr Arglwydd DDUW yn rhoi bloedd â'r utgornac yn mynd allan yng nghorwyntoedd y de.

Sechareia 9