Sechareia 8:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Daeth gair ARGLWYDD y Lluoedd ataf a dweud,

19. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Bydd ymprydiau'r pedwerydd mis, a'r pumed mis, a'r seithfed mis, a'r degfed mis yn troi'n dymhorau llawenydd a dedwyddwch, ac yn wyliau llawen i dŷ Jwda; felly carwch wirionedd a heddwch.’

20. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Daw eto bobloedd a thrigolion dinasoedd mawrion;

21. bydd trigolion un dref yn mynd at drigolion tref arall ac yn dweud, Awn i geisio ffafr yr ARGLWYDD ac i ymofyn ag ARGLWYDD y Lluoedd; ac fe af finnau hefyd.

22. Daw pobloedd cryfion a chenhedloedd nerthol i ymofyn ag ARGLWYDD y Lluoedd yn Jerwsalem ac i geisio ffafr yr ARGLWYDD.’

Sechareia 8