4. Gofynnais i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth yw'r rhain, f'arglwydd?”
5. Ac atebodd yr angel oedd yn siarad â mi, “Oni wyddost beth yw'r rhain?” Dywedais, “Na wn i, f'arglwydd.”
6. Yna dywedodd wrthyf, “Dyma air yr ARGLWYDD at Sorobabel: ‘Nid trwy lu ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd.
7. Beth wyt ti, O fynydd mawr? O flaen Sorobabel nid wyt ond gwastadedd. Bydd ef yn gosod y garreg uchaf, a phawb yn galw arni, ‘Bendith! Bendith arni!’ ”
8. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
9. “Dwylo Sorobabel sy'n sylfaenu'r tŷ hwn, a'i ddwylo ef a'i gorffen”; a chewch wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd i atoch.