Sechareia 4:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dychwelodd yr angel oedd yn siarad â mi, a'm deffro fel rhywun yn deffro o'i gwsg,

2. a dweud wrthyf, “Beth a weli?” Atebais innau, “Yr wyf yn gweld canhwyllbren, yn aur i gyd, a'i badell ar ei ben; y mae iddo saith o lampau a saith o bibellau i'r lampau arno;

Sechareia 4