Sechareia 3:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. a dywedodd yr angel wrth ei osgordd, “Tynnwch y dillad budron oddi amdano.” Dywedodd wrth Josua, “Edrych fel y symudais dy euogrwydd oddi wrthyt, ac fe'th wisgaf â gwisgoedd gwynion.”

5. Dywedodd hefyd, “Rhodder twrban glân am ei ben”; a rhoesant dwrban glân am ei ben, a dillad amdano; ac yr oedd angel yr ARGLWYDD yn sefyll gerllaw.

6. Yna rhybuddiodd angel yr ARGLWYDD Josua a dweud,

7. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Os rhodi yn fy ffyrdd a chadw fy ngorchmynion, cei reoli fy nhŷ a gofalu am fy llysoedd, a rhof iti'r hawl i fynd a dod gyda'r osgordd.

8. Gwrando, Josua yr archoffeiriad, ti a'th gyfeillion sydd ger dy fron, oherwydd arwyddion yw'r dynion hyn. Wele fi'n arwain allan fy ngwas, y Blaguryn.

Sechareia 3