Sechareia 2:10-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. “Gwaedda a gorfoledda, ferch Seion; oherwydd yr wyf yn dod i drigo yn dy ganol,” medd yr ARGLWYDD.

11. “A bydd cenhedloedd lawer yn glynu wrth yr ARGLWYDD yn y dydd hwnnw, ac yn dod yn bobl i mi, a byddaf yn trigo yn dy ganol, a chei wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd atat.

12. Bydd yr ARGLWYDD yn etifeddu Jwda yn gyfran iddo yn y tir sanctaidd, a bydd eto yn dewis Jerwsalem.

Sechareia 2