Sechareia 12:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. “Wele fi'n gwneud Jerwsalem yn gwpan feddwol i'r holl bobloedd oddi amgylch; a bydd yn Jwda warchae yn erbyn Jerwsalem.

3. Yn y dydd hwnnw, pan fydd holl genhedloedd y ddaear wedi ymgasglu yn ei herbyn, gwnaf Jerwsalem yn garreg rhy drom i'r holl bobloedd, a bydd pwy bynnag a'i cwyd yn brifo'n arw.

4. Y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD, “trawaf bob ceffyl â syndod, a'i farchog â dryswch; cadwaf fy ngolwg ar dŷ Jwda, ond trawaf holl geffylau'r bobloedd yn ddall.

5. Yna dywed tylwythau Jwda wrthynt eu hunain, ‘Cafodd trigolion Jerwsalem nerth trwy ARGLWYDD y Lluoedd, eu Duw.’

Sechareia 12