7. Ar y pedwerydd ar hugain o'r unfed mis ar ddeg, sef mis Sebat, o ail flwyddyn Dareius, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Sechareia fab Beracheia, fab Ido.
8. Dywedodd Sechareia: Neithiwr cefais weledigaeth, dyn yn marchogaeth ar geffyl coch. Yr oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd yn y pant, ac o'i ôl yr oedd meirch cochion, brithion a gwynion.
9. A gofynnais, “Beth yw'r rhai hyn, arglwydd?” A dywedodd yr angel oedd yn siarad â mi, “Dangosaf i ti beth ydynt.”
10. Yna dywedodd y gŵr oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, “Dyma'r rhai a anfonodd yr ARGLWYDD i dramwyo dros y ddaear.”