Ruth 4:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Yna meddai Boas, “Y diwrnod y pryni di'r tir gan Naomi, yr wyt hefyd yn cymryd Ruth y Foabes, gwraig gŵr a fu farw, i gadw enw'r marw ar ei etifeddiaeth.”

6. Atebodd y perthynas, “Ni fedraf ei brynu heb ddifetha f'etifeddiaeth fy hun. Pryn di ef, oherwydd ni allaf fi.”

7. Erstalwm dyma fyddai'r arfer yn Israel wrth brynu'n ôl a throsglwyddo eiddo: er mwyn cadarnhau unrhyw gytundeb byddai'r naill yn tynnu ei esgid ac yn ei rhoi i'r llall. Dyna oedd dull ardystio yn Israel.

8. Felly, pan ddywedodd y perthynas wrth Boas, “Pryn ef i ti dy hun”, fe dynnodd ei esgid.

Ruth 4