Ruth 3:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Aros yma heno; ac yfory, os bydd ef am weithredu fel perthynas, popeth yn iawn; gwnaed hynny. Ond os nad yw'n barod i wneud hynny, yna fe wnaf fi, cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw. Cwsg tan y bore.”

14. Cysgodd hithau wrth ei draed tan y bore; yna fe gododd, cyn y gallai neb adnabod ei gilydd. Yr oedd ef wedi gorchymyn nad oedd neb i wybod bod y ferch wedi dod i'r llawr dyrnu.

15. Ac meddai wrthi, “Estyn y fantell sydd amdanat, a dal hi.” A thra oedd hi yn ei dal, mesurodd yntau iddi chwe mesur o haidd a'i osod ar ei hysgwydd, ac aeth hithau i'r dref.

16. Wedi iddi gyrraedd gofynnodd ei mam-yng-nghyfraith, “Sut y bu hi gyda thi, fy merch?” Adroddodd hithau wrthi'r cwbl a wnaeth y dyn iddi.

17. Dywedodd, “Rhoddodd imi'r chwe mesur hyn o haidd oherwydd, meddai wrthyf, ‘Ni chei fynd yn waglaw at dy fam-yng-nghyfraith’.”

18. Yna dywedodd Naomi, “Aros, fy merch, nes y cei wybod sut y try pethau; oherwydd ni fydd y dyn yna'n gorffwys cyn gorffen y mater heddiw.”

Ruth 3