Ruth 2:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Ac meddai Naomi wrth ei merch-yng-nghyfraith, “Bendith yr ARGLWYDD arno! Nid yw'r ARGLWYDD wedi atal ei drugaredd at y byw na'r meirw.” Ac ychwanegodd Naomi, “Y mae'r dyn yn perthyn inni, ac yn un o'n perthnasau agosaf.”

21. Yna dywedodd Ruth y Foabes, “Fe ddywedodd wrthyf hefyd am lynu wrth ei weision ef nes iddynt orffen ei gynhaeaf.”

22. Ac meddai Naomi wrth ei merch-yng-nghyfraith Ruth, “Y mae'n well iti, fy merch, fynd allan gyda'i lancesau ef, rhag i rywrai ymosod arnat mewn rhyw faes arall.”

23. A glynodd hithau wrth lancesau Boas i loffa hyd ddiwedd y cynhaeaf haidd a'r cynhaeaf gwenith, ond yr oedd yn byw gyda'i mam-yng-nghyfraith.

Ruth 2