Ruth 1:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. a dweud wrthi, “Ond yr ydym ni am ddychwelyd gyda thi at dy bobl.”

11. Dywedodd Naomi, “Ewch adref, fy merched. Pam y dewch gyda mi? A oes gennyf fi ragor o feibion yn fy nghroth, iddynt ddod yn wŷr i chwi?

12. Ewch yn ôl, fy merched, oherwydd yr wyf fi'n rhy hen i gael gŵr. Pe bawn i'n dweud bod gennyf obaith cael gŵr heno, ac yna geni plant,

13. a fyddech chwi'n disgwyl nes iddynt dyfu? A fyddech yn ymgadw rhag priodi? Na, fy merched; y mae'n llawer chwerwach i mi nag i chwi am fod llaw yr ARGLWYDD yn f'erbyn i.”

14. Wylodd y ddwy yn uchel eto; yna ffarweliodd Orpa â'i mam-yng-nghyfraith, ond glynodd Ruth wrthi.

Ruth 1