Rhufeiniaid 9:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Oherwydd dyma air yr addewid: “Mi ddof yn yr amser hwnnw, a chaiff Sara fab.”

10. Ond y mae enghraifft arall hefyd. Beichiogodd Rebeca o gyfathrach ag un dyn, sef ein tad Isaac.

11. Eto i gyd, cyn geni'r plant a chyn iddynt wneud dim, na da na drwg (fel bod bwriad Duw, sy'n gweithredu trwy etholedigaeth, yn dal mewn grym, yn dibynnu nid ar weithredoedd dynol ond ar yr hwn sy'n galw),

12. fe ddywedwyd wrthi, “Bydd yr hynaf yn gwasanaethu'r ieuengaf.”

13. Fel y mae'n ysgrifenedig:“Jacob, fe'i cerais,ond Esau, fe'i caseais.”

Rhufeiniaid 9