Rhufeiniaid 9:28-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. oherwydd llwyr a llym fydd dedfryd yr Arglwydd ar y ddaear.”

29. A'r un yw neges gair blaenorol Eseia:“Oni bai i Arglwydd y Lluoedd adael i ni ddisgynyddion,byddem fel Sodom,ac yn debyg i Gomorra.”

30. Beth, ynteu, a ddywedwn? Hyn, fod Cenhedloedd, nad oeddent â'u bryd ar gyfiawnder, wedi dod o hyd iddo, sef y cyfiawnder sydd trwy ffydd;

31. ond bod Israel, er iddi fod â'i bryd ar gyfraith a fyddai'n dod â chyfiawnder, heb ei gael.

Rhufeiniaid 9