Rhufeiniaid 4:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. fel y mae'n ysgrifenedig: “Yr wyf yn dy benodi yn dad cenhedloedd lawer.” Yn y Duw a ddywedodd hyn y credodd Abraham, y Duw sy'n gwneud y meirw'n fyw, ac yn galw i fod yr hyn nad yw'n bod.

18. A'r credu hwn, â gobaith y tu hwnt i obaith, a'i gwnaeth yn dad cenhedloedd lawer, yn ôl yr hyn a lefarwyd: “Felly y bydd dy ddisgynyddion.”

19. Er ei fod tua chant oed, ni wanychodd yn ei ffydd, wrth ystyried cyflwr marw ei gorff ei hun a marweidd-dra croth Sara.

20. Nid amheuodd ddim ynglŷn ag addewid Duw, na diffygio mewn ffydd, ond yn hytrach grymusodd yn ei ffydd a rhoi gogoniant i Dduw,

21. yn llawn hyder fod Duw yn abl i gyflawni'r hyn yr oedd wedi ei addo.

Rhufeiniaid 4