Rhufeiniaid 4:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Beth gan hynny a ddywedwn am Abraham, hendad ein llinach? Beth a ddarganfu ef?

2. Oherwydd os cafodd Abraham ei gyfiawnhau trwy ei weithredoedd, y mae ganddo rywbeth i ymffrostio o'i herwydd. Ond na, gerbron Duw nid oes ganddo ddim.

3. Oherwydd beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud? “Credodd Abraham yn Nuw, ac fe'i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.”

4. Pan fydd rhywun yn gweithio, nid fel rhodd y cyfrifir y tâl, ond fel peth sy'n ddyledus.

Rhufeiniaid 4