Rhufeiniaid 3:9-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Wel, ynteu, a ydym ni'r Iddewon yn rhagori? Ddim o gwbl! Yr ydym eisoes wedi cyhuddo Iddewon a Groegiaid fel ei gilydd o fod dan lywodraeth pechod.

10. Fel y mae'n ysgrifenedig:“Nid oes neb cyfiawn, nac oes un,

11. neb sydd yn deall,neb yn ceisio Duw.

12. Y mae pawb wedi gwyro, yn ddi-fudd ynghyd;nid oes un a wna ddaioni,nac oes, dim un.

13. Bedd agored yw eu llwnc,a'u tafodau'n traethu twyll;gwenwyn nadredd dan eu gwefusau,

14. a'u genau'n llawn melltith a chwerwedd.

15. Cyflym eu traed i dywallt gwaed,

16. distryw a thrallod sydd ar eu ffyrdd;

17. nid ydynt yn adnabod ffordd tangnefedd;

18. nid oes ofn Duw ar eu cyfyl.”

19. Fe wyddom mai wrth y rhai sydd dan y Gyfraith y mae'r Gyfraith yn llefaru pob dim a ddywed. Felly dyna daw ar bob ceg, a'r byd i gyd wedi ei osod dan farn Duw.

20. Oherwydd, “gerbron Duw ni chyfiawnheir neb meidrol” trwy gadw gofynion cyfraith. Yr hyn a geir trwy'r Gyfraith yw ymwybyddiaeth o bechod.

21. Ond yn awr, yn annibynnol ar gyfraith, y mae cyfiawnder Duw wedi ei amlygu. Y mae'r Gyfraith a'r proffwydi, yn wir, yn dwyn tystiolaeth iddo,

22. ond cyfiawnder sydd o Dduw ydyw, trwy ffydd yn Iesu Grist i bawb sy'n credu.

23. Ie, pawb yn ddiwahaniaeth, oherwydd y maent oll wedi pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw.

Rhufeiniaid 3