Rhufeiniaid 3:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Ddim ar unrhyw gyfrif! Os nad yw Duw yn gyfiawn, sut y gall farnu'r byd?

7. Ie, ond os yw fy anwiredd i yn foddion i ddangos helaethrwydd gwirionedd Duw, a dwyn gogoniant iddo, pam yr wyf fi o hyd dan farn fel pechadur?

8. “Gadewch i ni wneud drygioni er mwyn i ddaioni ddilyn”—ai dyna yr ydym yn ei ddweud, fel y mae rhai sy'n ein henllibio yn mynnu? Y mae'r rheini'n llawn haeddu bod dan gondemniad.

9. Wel, ynteu, a ydym ni'r Iddewon yn rhagori? Ddim o gwbl! Yr ydym eisoes wedi cyhuddo Iddewon a Groegiaid fel ei gilydd o fod dan lywodraeth pechod.

10. Fel y mae'n ysgrifenedig:“Nid oes neb cyfiawn, nac oes un,

11. neb sydd yn deall,neb yn ceisio Duw.

12. Y mae pawb wedi gwyro, yn ddi-fudd ynghyd;nid oes un a wna ddaioni,nac oes, dim un.

Rhufeiniaid 3