Rhufeiniaid 3:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn wyneb hyn, pa ragorfraint sydd i'r Iddew? Pa werth sydd i'r enwaediad?

2. Y mae llawer, ym mhob modd. Yn y lle cyntaf, i'r Iddewon yr ymddiriedwyd oraclau Duw.

3. Ond beth os bu rhai yn anffyddlon? A all eu hanffyddlondeb hwy ddileu ffyddlondeb Duw?

4. Ddim ar unrhyw gyfrif! Rhaid bod Duw yn eirwir, er i bawb arall fod yn gelwyddog. Fel y mae'n ysgrifenedig:“Fel y'th geir yn gywir yn dy eiriau,a gorchfygu wrth gael dy farnu.”

5. Ond os yw'n hanghyfiawnder ni yn dwyn i'r golau gyfiawnder Duw, beth a ddywedwn? Mai anghyfiawn yw'r Duw sy'n bwrw ei ddigofaint arnom? (Siarad fel dyn yr wyf.)

Rhufeiniaid 3