Rhufeiniaid 2:19-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Fe ddichon dy fod yn argyhoeddedig dy fod yn arweinydd i'r dall, yn oleuni i'r rhai sydd mewn tywyllwch,

20. yn disgyblu'r ffôl, yn dysgu'r ifanc, a hynny am fod gennyt yn y Gyfraith holl gynnwys gwybodaeth a gwirionedd.

21. Os felly, ti sy'n dysgu arall, oni'th ddysgi dy hun? A wyt ti, sy'n pregethu yn erbyn lladrata, yn lleidr?

22. A wyt ti, sy'n llefaru yn erbyn godinebu, yn odinebus? A wyt ti, sy'n ffieiddio eilunod, yn ysbeilio temlau?

23. A wyt ti, sy'n ymffrostio yn y Gyfraith, yn dwyn gwarth ar Dduw trwy dorri ei Gyfraith?

24. Fel y mae'r Ysgrythur yn dweud, “O'ch achos chwi, ceblir enw Duw ymhlith y Cenhedloedd.”

Rhufeiniaid 2