Rhufeiniaid 2:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Nid oes ffafriaeth gerbron Duw.

12. Caiff pawb a bechodd heb y Gyfraith drengi hefyd heb y Gyfraith, a chaiff pawb a bechodd dan y Gyfraith eu barnu trwy'r Gyfraith.

13. Nid y rhai sy'n gwrando'r Gyfraith a geir yn gyfiawn gerbron Duw. Na, y rhai sy'n cadw'r Gyfraith a ddyfernir yn gyfiawn ganddo ef.

14. Pan yw Cenhedloedd sydd heb y Gyfraith yn cadw gofynion y Gyfraith wrth reddf, y maent, gan eu bod heb y Gyfraith, yn gyfraith iddynt eu hunain.

15. Y maent yn dangos bod yr hyn a ofynnir gan y Gyfraith wedi ei ysgrifennu yn eu calonnau, gan fod eu cydwybod yn cyd-dystiolaethu â'r Gyfraith, ac felly y mae eu meddyliau weithiau'n eu cyhuddo, ac weithiau hefyd yn eu hamddiffyn.

Rhufeiniaid 2