Rhufeiniaid 14:11-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Fel y mae'n ysgrifenedig:“Cyn wired â'm bod i yn fyw, medd yr Arglwydd, i mi y bydd pob glin yn plygu,a phob tafod yn moliannu Duw.”

12. Am hynny, bydd rhaid i bob un ohonom roi cyfrif amdanom ni'n hunain i Dduw.

13. Felly, peidiwn mwyach â barnu ein gilydd. Yn hytrach, dyfarnwch nad oes neb i roi achlysur i rywun arall gwympo neu faglu.

Rhufeiniaid 14