Rhufeiniaid 14:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Derbyniwch i'ch plith unrhyw un sy'n wan ei ffydd, ond nid er mwyn codi dadleuon.

2. Y mae gan ambell un ddigon o ffydd i fwyta pob peth, ond y mae un arall, gan fod ei ffydd mor wan, yn bwyta llysiau yn unig.

3. Rhaid i'r sawl sy'n bwyta pob peth beidio â bychanu'r sawl sy'n ymwrthod, a rhaid i'r sawl sy'n ymwrthod beidio â barnu'r sawl sy'n bwyta, oherwydd y mae Duw wedi ei dderbyn.

Rhufeiniaid 14