Rhufeiniaid 13:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Oherwydd gwas Duw ydyw, yn gweini arnat ti er dy les. Ond os drygioni a wnei, dylit ofni, oherwydd nid i ddim y mae'n gwisgo'r cleddyf. Gwas Duw ydyw, ie, dialydd i ddwyn digofaint dwyfol ar ddrwgweithredwyr.

5. Felly, y mae rheidrwydd arnom ymostwng, nid yn unig o achos y digofaint, ond hefyd o achos cydwybod.

6. Dyma pam hefyd yr ydych yn talu trethi, oherwydd gwasanaethu Duw y mae'r awdurdodau wrth fod yn ddyfal yn y gwaith hwn.

7. Talwch i bob un ohonynt beth bynnag sy'n ddyledus, boed dreth, boed doll, boed barch, boed anrhydedd.

8. Peidiwch â bod mewn dyled i neb, ar wahân i'r ddyled o garu eich gilydd. Y mae'r sawl sy'n caru pobl eraill wedi cyflawni holl ofynion y Gyfraith.

Rhufeiniaid 13