Rhufeiniaid 11:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr wyf yn gofyn, felly, a yw'n bosibl fod Duw wedi gwrthod ei bobl ei hun? Nac ydyw, ddim o gwbl! Oherwydd yr wyf fi yn Israeliad, o linach Abraham, o lwyth Benjamin.

2. Nid yw Duw wedi gwrthod ei bobl, y bobl a adnabu cyn eu bod. Gwyddoch beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud wrth adrodd hanes Elias yn galw ar Dduw yn erbyn Israel:

3. “Arglwydd, y maent wedi lladd dy broffwydi a bwrw d'allorau i lawr; myfi'n unig sydd ar ôl, ac y maent yn ceisio f'einioes innau.”

4. Ond yr atebiad dwyfol iddo oedd: “Gadewais i mi fy hun saith mil o bobl sydd heb blygu glin i Baal.”

5. Felly hefyd yn yr amser presennol hwn, y mae gweddill ar gael, gweddill sydd wedi ei ethol gan ras Duw.

6. Ond os trwy ras y bu hyn, ni all fod yn tarddu o gadw gofynion cyfraith; petai felly, byddai gras yn peidio â bod yn ras.

7. Mewn gair, y peth y mae Israel yn ei geisio, nid Israel a'i cafodd, ond y rhai a etholodd Duw; caledwyd y lleill,

8. fel y mae'n ysgrifenedig:“Rhoddodd Duw iddynt ysbryd swrth,llygaid i beidio â gweld,a chlustiau i beidio â chlywed,hyd y dydd heddiw.”

9. Ac y mae Dafydd yn dweud:“Bydded eu bwrdd yn fagl i'w rhwydo,ac yn groglath i'w cosbi;

10. tywyller eu llygaid iddynt beidio â gweld,a gwna hwy'n wargrwm dros byth.”

11. Yr wyf yn gofyn, felly, a yw eu llithriad yn gwymp terfynol? Nac ydyw, ddim o gwbl! I'r gwrthwyneb, am iddynt hwy droseddu y mae iachawdwriaeth wedi dod i'r Cenhedloedd, i wneud yr Iddewon yn eiddigeddus.

Rhufeiniaid 11