Rhufeiniaid 10:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur, “bydd pob un sy'n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub, pwy bynnag yw.”

14. Ond sut y mae pobl i alw ar rywun nad ydynt wedi credu ynddo? Sut y maent i gredu yn rhywun nad ydynt wedi ei glywed? Sut y maent i glywed, heb fod rhywun yn pregethu?

15. Sut y maent i bregethu, heb gael eu hanfon? Fel y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Mor weddaidd yw traed y rhai sy'n cyhoeddi newyddion da.”

16. Eto nid pawb a ufuddhaodd i'r newydd da. Oherwydd y mae Eseia'n dweud, “Arglwydd, pwy a gredodd yr hyn a glywsant gennym?”

17. Felly, o'r hyn a glywir y daw ffydd, a daw'r clywed trwy air Crist.

Rhufeiniaid 10